Amdanom ni

Yr Asiantaeth Tai Gwag

Mae'r Asiantaeth Tai Gwag yn elusen ymgyrchu annibynnol. Nid ydym yn rhan o'r llywodraeth, ac nid oes gennym unrhyw gysylltiadau ffurfiol â chynghorau lleol er ein bod yn cydweithio â'r naill a'r llall. Rydym yn bodoli er mwyn amlygu gwastraff yr eiddo gwag ac yn gweithio gyda eraill er mwyn dyfeisio a hyrwyddo atebion cynaliadwy er mwyn adfer eiddo gwag yn eiddo y mae pobl yn byw ynddynt eto. Rydym wedi'n lleoli yn Llundain ond rydym yn gweithio ledled Lloegr. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag elusennau eraill ledled y DU.

Shelter Cymru

Shelter Cymru yw’r elusen yng Nghymru ar gyfer pobl a chartrefi ac rydym eisiau i bawb yng Nghymru gael cartref addas. Credwn fod cartref yn hawl sylfaenol a’i fod yn hanfodol i iechyd a lles pobl a chymunedau. Rydym yn gweithio dros bobl sydd mewn angen am dai. Mae gennym swyddfeydd ar draws Cymru ac rydym yn atal pobl rhag colli eu cartrefi drwy gynnig cyngor annibynnol, cyfrinachol, am ddim. Pan fo’r angen, rydym yn herio’n adeiladol ar ran pobl er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynorthwyo’n gywir ac i wella ymarfer a dysgu. Mae Shelter Cymru yn credu y gall gwneud gwell defnydd o gartrefi gwag gyfrannu’n sylweddol at y ddaprariaeth o dai fforddiadwy yng Nghymru. Gwybodaeth bellach am ein gwaith ar gartrefi gwag.