Mae gan bob cyngor yng Nghymru a Lloegr bwerau i ddod â thai gwag yn ôl mewn defnydd. Mae llawer ohonynt yn dda iawn wrth wneud hynny, nid yw rhai eraill. Mae’r rhan fwyaf o gynghorau’n ceisio helpu a dwyn perswâd ar y perchennog i ddod â’u heiddo yn ôl mewn defnydd; dim ond pan fydd help a pherswâd wedi methu y byddant yn defnyddio pwerau cyfreithiol fel Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag.
Mae’r rhan fwyaf o eiddo gwag yn cael eu dwyn yn ôl mewn defnydd ymhen hir a hwyr gan eu perchennog. Fodd bynnag, mewn achosion niferus, mae hyn yn cymryd blynyddoedd. Yn aml, bydd eiddo gwag yn dirywio’n gyflym – bydd chwyn yn eu goresgyn a bydd y tywydd yn ymosod arnynt. Maent yn aml yn cael eu defnyddio gan sgwatwyr, pobl sy’n tipio’n anghyfreithlon, fandaliaid ac weithiau cânt eu rhoi ar dân yn fwriadol. Mae’r gymdogaeth gyfan yn dioddef wrth aros i’r perchennog ddelio â’i eiddo.
Mae cynghorau’n helpu ac yn dwyn perswâd ar berchenogion i adfer eu heiddo i’w defnyddio yn gyflymach. Hyd yn oed wedyn, gall y broses fod yn araf, yn enwedig os yw’r eiddo mewn cyflwr gwael iawn neu os yw’r perchennog yn amharod i wneud unrhyw beth. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd chwe mis yn mynd heibio cyn y gallwch ddisgwyl gweld unrhyw beth yn newid, weithiau hwy. Nid yw hyn yn golygu nad yw’r cyngor yn gwneud unrhyw beth, a dyma pam rydym ni’n annog y cyngor i ddiweddaru’r wefan fel y gallwch weld beth sy’n digwydd.
Byddwn yn cysylltu â chi ddwywaith (mis a chwe mis ar ôl i chi roi gwybod am yr eiddo gwag), fel y gallwch ddweud wrthym beth sydd wedi digwydd. Os nad yw’r cyngor yn gwneud unrhyw beth, neu os ydych chi’n meddwl bod eu hymateb yn annigonol, byddwn yn rhoi cyngor i chi ar beth i’w wneud nesaf.
Os taw’r llywodraeth neu un o’i hasiantaethau sy’n berchen ar yr eiddo gwag, nid oes gan gynghorau unrhyw bŵer i helpu’n aml. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwch yn gallu gweithredu’ch hunan yn uniongyrchol gan ddefnyddio PROD: http://www.emptyhomes.com/what-you-can-do-2/resources/prods-2
Bydd. Gall cynghorau wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ond mae ganddynt lawer o bethau i’w gwneud. Bydd llawer o gynghorau ddim ond yn delio ag eiddo gwag sydd wedi cael eu hysbysu iddyn nhw. Os nad yw pobl yn rhoi gwybod am eiddo gwag, mae’n bosibl iawn y daw cynghorau i’r casgliad bod meysydd gwaith eraill yn fwy pwysig.
Mae dros 840,000 o dai gwag yn y DU. Mae’r Asiantaeth Tai Gwag yn amcangyfrif bod dros hanner y rhain yn wag heb angen. Effaith hyn yw gostwng sylweddol yn y stoc tai sydd ar gael, gan fwydo argyfwng tai’r DU. Sgil-effaith y gwastraff hwn yw bod llawer mwy o bwysau’n cael ei roi ar dir adeiladau gan fod mwy o dai’n cael eu hadeiladu i ateb y diffyg. Mae’r Asiantaeth Tai Gwag yn amcangyfrif y byddai dod â dim ond chwarter tai gwag y DU yn ôl mewn defnydd yn rhoi cartrefi i 700,000 o bobl, yn arbed 160 cilometr sgwâr o dir ac yn arbed 10 miliwn tunnell fetrig o CO2 dros adeiladu’r un nifer o dai newydd.